Anti Henrietta O Chicago (W. R. Evans) This song was learnt by the band for the Chicago Celtic Festival in September 2007.
Mae gennyf Anti sydd yn byw yr ochor draw i'r dwr Anti Henrietta O Chicago A phan ddaw atom i roi tro 'rwy'n ofni'i gweld bid siwr Anti Henrietta O Chicago
Dyw Henrietta bith yn dweud "Shw Mae?" neu "Hylo" Anti Henrietta O Chicago Ond dyry glamp o gusan i'r holl deulu yn eu tro Anti Henrietta O Chicago
CYTGAN Hen fenyw ffein ydyw hon cofiwch chi Hen fenyw garedig a llawn o hwyl a sbort a spri Ond pan ddaw atom i roi tro 'rwy'n treio cadw draw Anti Henrietta O Chicago
Peth cas yw derbyn cusan pan foch chi yng ghannol crowd Anti Henrietta O Chicago Ond dyna arfer Anti ac fe'i gwna yn eithaf prowd Anti Henrietta O Chicago
Ni waeth pa beth a wisgaf i ai rhacs ai cordiroi Anti Henrietta O Chicago Fe ddyry Anti gusan mawr gan ddwedyd "Lovely Boy!" Anti Henrietta O Chicago
CYTGAN
A pan af hi i ddal y tren i'r stesion yn y trap Anti Henrietta O Chicago O flaen y guard a'r swancs i gyd, mae'n rhoddi gusan slap Anti Henrietta O Chicago